Mae marchnadoedd stoc byd eang wedi cwympo’n sylweddol heddiw oherwydd pryderon ynglŷn ag ail ddirwasgiad yn Ewrop a’r Unol Daleithiau.

Syrthiodd prif fynegai Prydain, y FTSE 100, 4.4%, neu 231.2 pwynt, ar ôl i gronfa arian ffederal yr Unol Daleithiau rybuddio fod y rhagolwg economaidd yn ddu.

Roedd y marchnadoedd stoc wedi gobeithio y byddai’r ‘Ffed’ yn argraffu rhagor o arian er mwyn rhoi hwb dros dro i’r economi.

Mae disgwyl na fydd hynny’n digwydd cyn mis Tachwedd ar y cynharaf.

Syrthiodd mynegai stoc Dax yr Almaen 4.3%, a mynegai Ffrainc, y Cac-40, 5.1%, ar ôl i’r Dow Jones gau 2.4% i lawr ddoe.

Yn ogystal â phryder ynglŷn â chryfder economi’r Unol Daleithiau, mae yna bryderon y gallai Gwlad Groeg benderfynu methdalu.

Fe allai hynny wneud niwed i fanciau mewn gwledydd eraill, gan gynnwys yr Eidal a Ffrainc, ac arwain at chwalfa ariannol debyg i’r hwnnw ddigwyddodd yn 2008.

Ar ben y cyfan roedd data cynhyrchu o China yn awgrymu fod yr economi yn arafu yn y wlad honno hefyd.