Mae arlywydd Taiwan wedi galw am ymchwiliad cyflym a thryloyw i’r ddamwain trên dros y Sul a laddodd 18 o bobol.

Dyma’r ddamwain waethaf yn y wlad ers bron i 30 mlynedd, ac mae ymchwilwyr eisoes wrthi’n cymryd golwg ar weddillion y Puyuma Express a’i wyth cerbyd a ddaeth oddi ar y cledrau wrth fynd rownd cornel yn ardal Yilan ddoe (dydd Sul, Hydref 21).

Mae tystiolaeth fideo yn dangos y trên yn taro traws metal ac yn dod ag adeilad cyfan am ei ben yn yr ardal lle mae’r uchafswm cyflymder yn 47 milltir yr awr.

Yn ogystal â’r deunaw o bobol a laddwyd, mae 187 o bobol eraill wedi’u hanafu yn y digwyddiad.

Mae gweithwyr achub wedi bod wrthi trwy’r nos yn chwilio am oroeswyr yn y rwbel, cyn bod y criwiau ymchwilio yn gallu dechrau ar eu gwaith.