Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi bygwth tynnu allan o gytundeb niwclear gyda Rwsia a gafodd ei lofnodi yn 1987.

Cafodd y cytundeb arfau ei lofnodi pan oedd Ronald Reagan a Mikhail Gorbachev wrth y llyw, ac mae’n atal y ddwy wlad rhag meddu ar daflegrau, eu cynhyrchu a’u profi o bellter o 3oo i 3,400 o filltiroedd.

Mae Donald Trump wedi cyhuddo Rwsia ers blynyddoedd o dorri’r cytundeb ac oni bai bod y wlad, ynghyd â Tsieina, yn rhoi’r gorau i ddatblygu a bod ag arfau yn eu meddiant, mae e wedi bygwth dechrau rhaglen arfau niwclear yn yr Unol Daleithiau.

Cefndir

Mae Rwsia wedi’u cyhuddo o dorri’r cytundeb sawl gwaith yn y gorffennol.

Y llynedd, dywedodd swyddogion llywodraeth yr Unol Daleithiau fod Rwsia wedi lansio taflegryn yn groes i’r cytundeb.

Ac fe gafodd Rwsia eu cyhuddo gan lywodraeth y cyn-Arlywydd Barack Obama o dorri’r cytundeb hefyd.

Ymateb Donald Trump

Ar ôl rali yn Nevada, dywedodd yr Arlywydd Donald Trump na fyddai ei lywodraeth yn rhoi’r hawl i Rwsia dorri’r cytundeb a “gwneud arfau nad oes hawl gyda ni i’w gwneud”.

“Bydd rhaid i ni ddatblygu’r arfau hynny oni bai bod Rwsia’n dod aton ni a bod Tsieina yn dod aton ni a’u bod i gyd yn dod aton ni ac yn dweud, ‘gadewch i ni fod yn gall, gadewch i ni gyd beidio â chynhyrchu’r arfau hynny’, ond os yw Rwsia’n ei wneud e ac os yw Tsieina yn ei wneud e, a’n bod ni’n cadw at y cytundeb, mae hynny’n annerbyniol.”

Mae disgwyl i ymgynghorydd diogelwch yr Unol Daleithiau, John Bolton gyfarfod â Gweinidog Tramor Rwsia, Sergei Lavrov ac ysgrifennydd cyngor y Kremlin, Nikolai Patrushev ym Mosgo dros y penwythnos. Fe fydd yn barhad o’r cyfarfod yn Helsinki ym mis Gorffennaf.