Mae erlynwyr wedi dechrau dwyn achos yn erbyn arweinydd un o bleidiau asgell chwith eithafol Ffrainc, Jean-Luc Melenchon.

Cafodd y cyn-ymgeisydd arlywyddol ei ffilmio’n bloeddio “Fi yw’r Weriniaeth!” a “chiciwch y drysau i lawr, gyfeillion!” cyn gwthio unigolyn pan oedd yr heddlu ac erlynydd yn cynnal archwiliad o bencadlys ei blaid.

Mae e wedi cyhuddo’r llywodraeth o’i dargedu am “resymau gwleidyddol” ac o ymddwyn yn “wleidyddol ymosodol”.

Yn y fideo sydd wedi’i chyhoeddi ar wefannau cymdeithasol, roedd yn dadlau y dylai ei statws fel un sydd â’r hawl i ddeddfu ei warchod rhag cael ei gamdrin gan yr awdurdodau.

Mae’r Front National, un arall o bleidiau eithafol Ffrainc, hefyd yn destun ymchwiliad i’w sefyllfa ariannol.