Mae Gweinidog Tramor gwlad Groeg wedi ymddiswyddo yn dilyn ffrae tros newid enw Macedonia.

Mae Prif Weinidog y wlad, Alexis Tsipras, wedi cyhoeddi y bydd ef yn bersonol ym cymryd gofal o’r swydd am gyfnod, er mwyn sicrhau bod y newid enw yn cael ei gwblhau’n “llwyddiannus”.

Daw ymddiswyddiad Nikos Kotzias o’r Swyddfa Dramor ddiwrnod ar ôl cyfarfod o’r cabinet lle mae’n debyg iddo gael ffrae gyda’r Gweinidog Amddiffyn, Panos Kammenos, tros bwriad Macedonia i newid ei henw i ‘Ogledd Macedonia’.

Bydd y newid enw yn dod â’r gynnen hir rhwng Macedonia a Gwlad Groeg, sydd â rhanbarth o’r enw ‘Macedonia’ hefyd, i ben. Gall hefyd arwain at ‘Ogledd Macedonia’ yn dod yn aelod o NATO.

Mae Nikos Kotzias wedi bod yn wrthwynebus i’r cytundeb hwn rhwng Gwlad Groeg a Macedonia ers tro.

Mae wedi bygwth droeon y byddai ef a’i blaid asgell-chwith, Y Groegwyr Annibynnol, yn gadael y llywodraeth glymbleidiol pe bai’r cytundeb yn cyrraedd y Senedd.