Fydd yr Unol Daleithiau ddim yn cychwyn trafodaethau am gytundeb masnach gyda Llywodraeth Prydain tan ar ôl Brexit.

Yn ôl Robert Lightzier, cynrychiolydd Donald Trump ar faterion masnach, mae’r Unol Daleithiau yn awyddus i gynnal trafodaethau gyda’r Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd a Siapan.

Ond er eu bod nhw’n barod i drafod gydag Ewrop a Siapan “cyn gynted â phosib”, bydd rhaid i wledydd Prydain aros tan ar ôl Mawrth 29 cyn dod at y bwrdd trafod.

Mae cytundeb masnach gyda’r Unol Daleithiau yn cael ei ystyried gan brif gefnogwyr Brexit yn un o’r cyfleoedd mwyaf addawol a ddaw i’r Deyrnas Unedig wedi Brexit.

Ond mae nifer yn pryderu y bydd cytundeb o’r fath yn achosi cwmnïau o ochr draw i’r Iwerydd yn ymyrryd â’r Gwasanaeth Iechyd, a bwydydd sydd wedi’u haddasu’n enetig yn cael mynediad i farchnadoedd gwledydd Prydain.

Mae’r Unol Daleithiau eisoes wedi rhybuddio Llywodraeth Prydain y byddai glynu wrth safonau’r Undeb Ewropeaidd ar yr amgylchedd, lles anifeiliaid a’r gweithlu, yn achosi anawsterau wrth ffurfio cytundeb.