Mae byddin Israel yn ymosod ar Gaza heddiw, wedi i roced o diroedd y Palesteiniaid daro ty pobol gyffredin yn Beersheba.

Yn ol adroddiadau, fe fu’n rhaid i wraig a thri o blant ffoi o’u cartref, cyn i’r roced daro’r adeilad.

Fe gafodd dau arall o drigolion Beersheba eu hanafu wrth iddyn nhwthau geisio dianc i loches yn ystod yr un ymosodiad roced, meddai’r awdurdodau. Mae byddin Israel yn dwed i roced arall o Gaza lanio yn y môr.

Mae ysgolion yn Beersheba wedi bod ar gau ers yr ymosodiad.

Mae gweinyddiaeth iechyd Gaza yn dweud fod dyn 25 oed wedi’i ladd yn ystod ymosodiadau Israel ar y Palesteiniaid, a bod tri o bobol eraill wedi’u hanafu.