Mae dyn a gafwyd yn euog o ladd wyth o blant wedi cael ei ddienyddio mewn carchar yn Pacistan.

Ond fe wrthododd uchel lys y wlad gais i wneud y dienyddiad yn un cyhoeddus.

Fe gafodd Mohammad Imran ei grogi yn ninas Lahore, a hynny ym mhresenoldeb tad un o’r plant a gafodd eu lladd ganddo.

Roedd wedi cael ei arestio bythefnos ar ôl iddo daflu corff Zainab Ansari i mewn i domen sbwriel yn Kasur.

Ar ôl cael ei holi gan yr heddlu, cyfaddefodd Mohammad Imran ei fod yn gyfrifol am ladd saith plentyn arall hefyd.

Roedd tad Zainab, Mohammed Amin Ansari, wedi galw ar yr awdurdodau i wneud y dienyddiad yn un cyhoeddus er mwyn atal eraill rhag cyflawni gweithredoedd tebyg.

Cafodd y cais ei wrthod, ond rhoddwyd hawl i’r tad fod yn bresennol yn y carchar pan oedd Mohammad Imran yn cael ei grogi.