Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau yn bygwth tynnu’n ôl y gefnogaeth ariannol i Hondwras os y bydd criw o bobol ar ffo yn croesi’r ffin.
Mae Donald Trump yn dweud y bydd yn gweithredu os na fydd y grwp o tua 1,600 o bobol yn cael eu rhwystro.
Ond mae’n ymddangos nad oes gan Hondwras fawr o awdurdod tros y teithwyr erbyn hyn gan eu bod eisoes wedi cyrraedd Gwatemala ar eu ffordd tuag America.
Maen nhw’n ffoi rhag tlodi a thrais yn eu mamwlad.