Mae trên wennol sy’n cysylltu priddinas Morocco gyda thref arall, wedi dod oddi ar y cledrau, gan ladd o leiaf saith o bobol ac anafu dwsinau o bobol eraill.
Mae saith o bobol hefyd wedi’u hanafu’n ddifrifol, ac yn derbyn triniaeth mewn ysbyty milwrol yn ninas Rabat.
Roedd y trên yn teithio o Rabat i Kenitra pan ddigwyddodd y ddamwain ger tref Sidi Bouknadel, nepell o ddinas Sale.
Mae brenin Morocco, Mohammed VI, wedi cynnig talu costau angladd y rheiny sydd wedi’u lladd o’i boced ei hun.