Mae heddlu Twrci yn dweud eu bod nhw wedi darganfod “tystiolaeth gadarn” fod y newyddiadurwr, Jamal Khashoggi, wedi cael ei ladd yn swyddfa Saudi Arabia yn Istanbul wrth archwilio’r lle.

Yr honiad yw bod ysbïwyr Sawdi Arabia wedi lladd a datgymalu’r newyddiadurwr yn yr adeilad ar yr 2il o Hydref.

Ni gyflwynodd heddlu Twrci unrhyw fanylion yn ymwneud a’r dystiolaeth a mae Saudi Arabia wedi galw’r cyhuddiadau yn “ddi-sail.”

Bu Ysgrifennydd y Wladwriaeth America, Mike Pompeo, yn cyfarfod â’r Brenin Salman, Sawdi Arabia, heddiw (Hydref 16) i drafod y diflaniad a’r cyhuddiadau yn dilyn hynny.

Mae nifer o bapurau newydd America, yn cynnwys The Washington Post, The New York Times a CNN, yn amau fod Jamal Khashoggi wedi cael ei ladd.