Mae o leiaf 13 o bobol wedi cael eu lladd mewn ffrwydrad yn ystod rali wleidyddol yng ngogledd-ddwyrain Afghanistan.

Ymhlith y rhai fu farw yn nhalaith Takhar mae pobol gyffredin a lluoedd diogelwch.

Cafodd 32 o bobol eu hanafu pan gafodd bomiau eu ffrwydro oddi ar gefn beic yn ardal Rustaq y dalaith.

Yr wythnos ddiwethaf, cafodd ymgeisydd etholiadol ei ladd yn ne Helmand.

Does neb wedi hawlio cyfrifoldeb am yr ymosodiad diweddaraf, ond mae’r Taliban yn weithgar yn yr ardal.