Mae heddlu yng Ngwlad Groeg wedi dod o hyd i 11 o gyrff yn dilyn gwrthdrawiad – a’r gred yw mai ffoaduriaid ydyn nhw oedd yn teithio i Dwrci.

Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad toc ar ôl 5 o’r gloch fore heddiw ger tref Kavala yng ngogledd y wlad.

Mae lle i gredu bod y car yr oedden nhw’n teithio ynddo ar ei ffordd i Thessaloniki, a’i fod wedi taro yn erbyn tryc yn teithio i’r cyfeiriad arall cyn mynd ar dân.

Cafodd pawb oedd yn teithio yn y car eu lladd, ac mae gyrrwr y tryc yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty.

Fe fu cynnydd yn ddiweddar yn nifer y bobol sy’n ceisio croesi’r ffin rhwng Gwlad Groeg a Thwrci, wrth iddyn nhw geisio lloches yn Thessaloniki lle maen nhw’n cael eu prosesu’n ffurfiol.