Mae gwraig arlywydd yr Unol Daleithiau yn dweud ei bod yn teimlo mai hi yw’r person sy’n cael ei bwlio fwyaf yn y byd i gyd.

Dywed Melania Trump hefyd fod nifer o bobol o fewn i’r Tŷ Gwyn nad yw hi na’i gŵr yn ymddiried ynddyn nhw, ond ychwanega bod rhai o’r rheiny “ddim yn gweithio yno mwyach”.

Roedd Melania Trump yn cael ei chyfweld yn ystod ei thaith i Affrica, lle mae’n hyrwyddo’r ymgyrch, ‘Be Best’, sy’n ceisio mynd i’r afael â bwlio ar-lein.

Mae wedi cael ei sbarduno i gychwyn yr ymgyrch, meddai, yn rhannol oherwydd yr hyn y mae pobol yn ei ddweud amdani ar-lein.

“Mae angen i ni addysgu ein plant am ymddygiad emosiynol cymdeithasol, felly pan maen nhw’n dod yn oedolion fe fyddan nhw’n gwybod sut i ddelio â’r mater,” meddai.

Daw ei sylwadau wedi i’w gŵr Donald Trump gael ei holi mewn cyfweliad heddiw (dydd Iau, Hydref 11) ynglŷn â pham y mae pobol y mae ef a’i wraig ddim yn ymddiried ynddyn nhw yn dal o’u cwmpas.

“A oes yna rai pobol dw i ddim yn eu hoffi? Oes,” meddai’r Arlywydd. “Ond rydym ni am gael gwared arnyn nhw’n araf.”