Mae 19 o bobol wedi cael eu dedfrydu i farwolaeth, a 19 arall i oes yn y carchar, ar ôl iddyn nhw ymosod ar rali wleidyddol arweinydd yr wrthblaid yn Bangladesh.

Fe ddaeth y cyhoeddiad ar ddiwedd achos yn y brifddinas Dhaka.

Roedd Sheikh Hasina, sy’n brif weinidog y wlad erbyn hyn, yn lwcus i osgoi cael ei ladd yn yr ymosodiad yn 2004.

Ymysg y rheiny sy’n wynebu marwolaeth mae dau gyn-weinidog cabinet; ynghyd â Tarique Rhaman, sef mab cyn-brif weinidog Bangladesh, Khaleda Zia, sydd eisoes yn y carchar wedi’i gael yn euog o lygredd gwleidyddol.

Mae un ar ddeg o bobol eraill wedi cael eu dedfrydu i gyfnodau o rhwng chwe mis a dwy flynedd yn y carchar.