Corwynt Michael ar ei ffordd i Fflorida ar gyflymdra o 120 milltir yr awr.

Mae disgwyl i ddegau o filoedd yn rhagor o bobol orfod gadael eu cartrefi. Mae 180,000 eisoes wedi cael y rhybudd hwnnw ers dechrau’r wythnos.

Mae gwleidyddion y dalaith wedi rhybuddio y gallai achosi cryn ddifrod, ac mae argyfwng tanwydd eisoes wrth i bobol ruthro i lenwi eu cerbydau.

Mae arbenigwyr hefyd yn rhybuddio y gallai’r corwynt arwain lifogydd dros y dyddiau nesaf, wrth iddyn nhw ddarogan hyd at chwe modfedd o law.

Fe fu llifogydd eisoes yn y Caribî a rhannau o Dde America, lle mae 13 o bobol wedi’u lladd wrth i doeon ddymchwel a phobol foddi.