Mae nifer y bobol gafodd eu lladd gan ddaeargryn 5.9 a ysgydwodd ynys Haiti dros y penwythnos, bellach yn 15, ac mae 333 wedi’u hanafu.

Mae criwiau achub yn dal i weithio i helpu dioddefwyr sy’n cael eu heffeithio gan ôl-gryniadau hefyd.

Mae’r awdurdodau yn Haiti yn dweud y bydd 70 o filwyr yn mynd i daleithiau Nord-Ouest ac Artibonite a gafodd eu taro waethaf, i helpu gyda’r gwaith o ail-godi cartrefi.

Mae 14 o woldiwrs, ynghyd â nyrsys a meddygon, eisoes yn yr ardaloedd hynny ers y penwythnos.

Mae miloedd o bobol ar hyd arfordir gogledd Haiti wedi llusgo matresi a chadeiriau allan o’u tai ac yn byw ac yn cysgu yn yr awyr agored, am eu bod yn ofni y daw mwy o gryniadau.

Ymysg y meirw roedd bachgen pum mlwydd oed.