Mae’r heddlu’n ymchwilio i achos o dreisio a llofruddiaeth, ar ôl i gorff cyflwynwraig gael ei darganfod ger afon Danube dros y penwythnos.

Fe ddaeth yr awdurdodau o hyd i gorff Viktoria Marinova, 30, yn nhref Ruse yng ngogledd Bwlgaria ddydd Sadwrn (Hydref 6).

Dywed yr heddlu ei bod hi wedi cael ei tharo, ei thresio a’i chrogi cyn i’w chorff gael ei adael mewn parc ger yr afon.

Mae llefarydd ar ran y llywodraeth yn dweud nad oes yna dystiolaeth bod ei marwolaeth yn gysylltiedig â’i gwaith.

Ond yn ôl yr heddlu, maen nhw’n ystyried pob opsiwn posib, gan ymchwilio i gysylltiadau posib rhwng ei gwaith a’i bywyd personol.

Roedd Viktoria Marinova yn gyfarwyddwraig ar orsaf deledu fechan yn y wlad, ac yn gyflwynwraig ar ddwy raglen ymchwiliadol.