Mae 20 o bobol wedi’u lladd ar ôl i limousine fod mewn gwrthdrawiad yn Efrog Newydd.

Yn ôl adroddiadau roedd y cerbyd yn cludo pedair chwaer a’u ffrindiau i ddathliad pen-blwydd 30 oed.

Roedd y limousine yn teithio ar ffordd yn Schoharie, tua 170 milltir i’r gogledd o Ddinas Efrog Newydd pan fethodd a stopio wrth ymyl cyffordd tua 2yp amser lleol ddydd Sadwrn.

Fe wyrodd ar draws y ffordd gan daro cerbyd arall. Bu farw gyrrwr y limousine, pob un o’r 17 o deithwyr, a dau berson y tu allan i’r cerbyd, meddai’r heddlu.

Roedd tri o’r chwiorydd yn teithio gyda’u gwyr ac maen nhw wedi cael eu hadnabod fel Amy ac Axel Steenburg, Abigail ac Adam Jackson, Mary a Rob Dyson ac Allison King.

Mae ymchwiliad ar y gweill i achos y ddamwain.

Mae’n un o’r damweiniau trafnidiaeth waethaf ers 2009, pan fu farw 50 o bobol mewn damwain awyren ger Buffalo yn Efrog Newydd.