Mae ffrind i newyddiadurwr o Sawdi Arabia sydd ar goll ers dydd Mawrth wedi dweud iddo gael ei ladd yng nghonswlaeth y wlad yn Twrci.

Yn ôl ffynhonellau, dywedodd swyddogion wrth Jamal Khashoggi, cyfrannwr i’r Washington Post, am “drefnu ei angladd”.

Maen nhw hefyd yn dweud fod ganddyn nhw dystiolaeth bod Jamal Khashoggi wedi cael ei ladd “mewn modd barbaraidd”.

Ond mae swyddogion y wlad wedi gwadu’r honiadau.