Mae Brett Kavanaugh, sydd dan y lach yn sgil ei ymddygiad rhywiol, wedi tyngu llw er mwyn dod yn Ustus yng Ngoruchaf Lys yr Unol Daleithiau.

Cafodd ei gadarnhau yn y swydd yn dilyn gwrandawiadau yn sgil honiadau yn ei erbyn.

Pleidleisiodd gwleidyddion y wlad o 50 i 48 o blaid derbyn ei enwebiad er yr honiadau iddo ymosod yn rhywiol ar ddynes dri degawd yn ôl.

Roedd wedi gwadu’r honiadau.

Wrth iddo dyngu llw, cafodd protestwyr yn erbyn ei benodiad eu symud o’r adeilad gan yr heddlu, cyn parhau â’u protest y tu allan.

Mae Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump wedi canmol Brett Kavanaugh am “wrthsefyll yr ymosodiad ofnadwy gan y Democratiaid”.