Er bod ei glwb newydd Juventus wedi cefnogi Cristiano Ronaldo i’r carn, mae cwmni dillad chwaraeon Nike yn dweud eu bod yn “pryderu yn arw”” am yr honiadau ei fod wedi treisio merch.

Mae Ronaldo yn un o’r ychydig bêl-droedwyr sy’n frand byd eang – ond mae ei enw da yn y fantol yn dilyn honiadau iddo gam-drin dynes yn America yn 2009.

Ar hyn o bryd mae gan y pêl-droediwr o Bortiwgal gytundeb gwerth £768 miliwn i hyrwyddo dillad ac esgidiau Nike.

Ond mae’r cwmni yn dweud eu bod yn “pryderu yn arw am yr honiadau ofnadwy” ac y byddan nhw yn “parhau i gadw llygad barcud ar y sefyllfa”.

Mae’r ymosodwr 33 oed, sydd â 154 o gapiau tros ei wlad, yn gwadu iddo wneud unrhyw beth o’i le.