Mae mwy na 300 o bobol wedi cael eu hanafu yn dilyn gwrthdrawiad rhwng dau drên yn Ne Affrica.

Yn ôl awdurdodau’r wlad, fe fu’r digwyddiad yn hwyr neithiwr (dydd Iau, Hydref 4) ar gyrion Johannesburg, pan wnaeth trên gwrthdaro ag un arall a oedd yn stond.

Mae 32 o bobol wedi cael eu hanafu’n ddifrifol, ac mae swyddogion y rheilffordd yn dal i geisio clirio’r llanast yn yr ardal.

Cyfres o ddamweiniau

Dyma’r ddamwain ddiweddaraf rhwng trenau yn Ne Affrica yn ystod y misoedd diwethaf.

Ym mis Medi, fe gafodd tua 100 o bobol eu hanafu yn dilyn damwain rhwng dau drên arall yn Johannesburg.

Cafodd mwy na 200 eu hanafu mewn digwyddiad tebyg ar gyrion y ddinas ym mis Ionawr hefyd.