Mae gwasanaeth cudd-wybodaeth yr Unol Daleithiau a fu’n ymchwilio i gyhuddiadau yn erbyn Brett Kavanaugh, “wedi ochri gyda’r gwleidydd”, yn ôl Seneddwr Gweriniaethol.

Mae’r barnwr wedi cael ei enwebu gan Arlywydd yr Unol Daleithiau, Donald Trump, i fod yn Ustus yn y Goruchaf Lys. Ond mae ei obeithion o gael y swydd honno bellach yn y fantol, wedi i dair dynes ddod ymlaen a’i gyhuddo o ymosod yn anweddus a chamymddwyn yn rhywiol.

Bellach mae corff yr FBI (y Biwro Ymchwilio Ffederal) wedi edrych i mewn i’r honiadau, ac wedi rhannu eu canfyddiadau â Seneddwyr.

Yn ôl Chuck Grassley, Cadeirydd Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd a gŵr sy’n cefnogi Brett Kavanaugh, mae’r FBI wedi methu â dod o hyd i dystiolaeth i gefnogi’r cyhuddiadau.

Canfyddiadau

“Does dim byd yn yr adroddiad nad oeddem ni eisoes yn gwybod,” meddai  Chuck Grassley. “Daeth yr ymchwiliad yma i’r casgliad na fu unrhyw camymddwyn.”

Mae Pwyllgor Barnwriaeth y Senedd eisoes wedi rhoi sêl bendith i Brett Kavannaugh, a fory (dydd Gwener, Hydref 4) bydd Seneddwyr yn cael cyfle i fwrw pleidlais ar y mater.