Mae plismon wedi’i ladd a chwe arall wedi’u hanafu yn dilyn saethu yn Ne Carolina yn yr Unol Daleithiau.

Roedd yr heddlu yn ninas Florence yn ymateb i gais am gymorth gan swyddfa’r sheriff yn dilyn adroddiadau bod dyn â gwn yn cadw plant yn wystlon.

Fe ildiodd y troseddwr a rhyddhau’r plant wedi dwyawr, ond nid cyn saethu at yr heddlu.

Bu farw’r plismon, Terrence Carraway, 52, o Darlington farw yn yr ysbyty yn fuan ar ôl iddo gael ei anafu yn ystod y cyrch.

Roedd y gŵr newydd ddathlu 30 mlynedd o wasanaeth yn yr heddlu, yn ôl yr awdurdodau.

Does dim gwybodaeth wedi’i rhyddhau ynglŷn ag enw’r dyn â’r gwn, ac nid yw ei fwriad yn ystod y digwyddiad yn hysbys ar hyn o bryd.