Mae Vladimir Putin wedi galw’r cyn-ysbïwr a gafodd ei wenwyno yn Sailsbury yn gynharach eleni, yn “fradwr”.

Dyma’r tro cyntaf i Arlywydd Rwsia feirniadu Sergei Skripal yn uniongyrchol a chyhoeddus, ac roedd yn cyfeirio at yr ymosodiad a fu ar Fawrth 4.

Mae Llywodraeth Prydain wedi rhoi’r bai ar Rwsia am y digwyddiad, ond mae Moscow’n parhau i wadu’r cyhuddiad.

Mae Vladimir Putin wedi dweud nad yw’r Kremlin wedi bod â diddordeb yn y cyn-ysbïwr ers iddo ymddangos gerbron llys yn Rwsia a’i gyfnewid yn 2010.