Mae Zimbabwe wedi dechrau brechu hanner miliwn o bobol, wedi i’r clefyd cholera ladd beth bynnag 49 o bobol yn y wlad.

Mae’r ymgrych ddiweddara’ yn anelu at frechu 500,000 o bobol rhwng heddiw (dydd Mercher, Hydref 3) a dydd Sadwrn, gyda miliwn o bobol ar y rhestr i gael eu brechu ddechrau’r wythnos nesaf.

Mae llywodraeth y wlad yn dweud bod cymaint â 9,000 o bobol wedi cael eu taro’n wael, a’r rhan fwya’ ohonyn nhw yn y brifddinas, Harare, lle mae’r system ddwr a charthffosiaeth ar ei gliniau a baw yn llifo ar hyd y strydoedd.

Mae nifer yn poeni y gallai’r hyn ddigwyddodd yn 2008 gael ei ail-adrodd, os na fydd y llywodraeth yn dod â’r sefyllfa dan reolaeth. Fe laddwyd 4,000 o bobol ddegawd yn ol, a hynny pan oedd y wlad yn brwydro problemau economaidd a gwleidyddol hefyd.