Mae heddlu yn Ffrainc wedi arestio tri bobol ac wedi dod o hyd i arfau yn ystod cyrchoedd ar ddwsin o gartrefi a phencadlys mudiad Mwslimaidd ar gyrion Dunkirk.

Roedd y cyrchoedd yn rhan o ymgyrch gwrth-frawychiaeth.

Mae’r awdurdodau hefyd wedi rhewi cyfrifon y Centre Zahra France, ynghyd ag arian tri sefydliad arall sydd wedi’u cysylltu â’r pedwar dyn sydd wedi’u dwyn i’r ddalfa,

Mae tri o’r rheiny sydd wedi’u harestio, yn cael eu hamau o fod ag arfau anghyfreithlon yn eu meddiant, meddai’r heddlu, ond dydyn nhw ddim yn mynd i fanylder ynglyn â natur yr arfau.

Roedd tua 200 o blismyn yn rhan o’r cyrchoedd.