Mae fferi gyda 294 0 deithwyr ar ei bwrdd yn sownd yng nghanol y Môr Baltig, wedi i’r injan dorri lawr rhwng gwlad Pwyl a Lithwania.

Does neb wedi’i anafu yn y digwyddiad, ac mae cwmni Regina Seaways yn dweud nad yw hi’n glir eto a fydd y cwch yn gallu gwneud ei ffordd ei hun o’i safle presennol, heb gael ei dynnu oddi yno.

Roedd y fferi ar ei ffordd rhwng porthladdoedd Kiel yn yr Almaen a Klaipeda yn Lithwania, ac yn cario ceir yn ogystal â theithwyr.

Mae llynges Lithwania yn dweud ei bod wedi anfon un o’i hofrenyddion ynghyd â thri cwch i ardal Kaliningrad, rhag ofn y bydd angen achub teithwyr a’u cario oddi ar y fferi.

Fe gafodd y fferi ei hadeiladu yn 2010, ac mae’n gallu cario hyd at 500 o deithwyr.