Mae gwyddonydd o’r Eidal wedi cael ei wahardd o sefydliad Ewropeaidd, am roi cyflwyniad oedd yn honni mai “dynion ddyfeisiodd ffiseg”.

‘Theori Ynni Dwys a Rhyw’ oedd enw cyflwyniad Alessandro Strumia, ac roedd un o’i dudalennau PowerPoint yn honni nad oedd gan fenywod gyfraniad o gwbwl yn y maes.

Bellach mae’r Sefydliad Ewropeaidd tros Ymchwil Niwclear (CERN) wedi datgan fod y cyflwyniad yn fwy o “ymosodiad”, a’i fod yn “annerbyniol mewn unrhyw gyd-destun proffesiynol”.

CERN yw’r awdurdod sy’n gyfrifol am y Malwr Hadron Enfawr (Large Hadron Collider), sef dyfais anferth sy’n saethu gronynnau at ei gilydd. Mae’r ddyfais yn sefyll dan ffin Ffrainc a’r Swistir, a’n fwy nag unrhyw beiriant tebyg arall ar wyneb y ddaear.