Mae erlynywyr wedi datgelu rhagor o fanylion am farwolaeth newyddiadurwr, a’i ddarpar wraig, yn Slofacia.

Roedd Jan Kuciak wedi bod yn ymchwilio i gysylltiadau rhwng gwleidyddion Slofacia a gangiau o’r Eidal a chafodd ei saethu yn farw – ynghyd â Martina Kusnirova  – yn eu cartref ar Chwefror 21.

Mae’r awdurdodau yn credu bod llofrudd, neu grŵp o lofruddwyr, wedi cael eu talu i gyflawni’r ymosodiad, a bellach mae erlynywyr wedi datgelu mai £63,000 oedd y swm hwnnw.

Yn sgil y llofruddiaethau bu yna dipyn o brotestio yn Slofacia, a chwalodd Llywodraeth y wlad. Hefyd bu’n rhaid i bennaeth cenedlaethol yr heddlu ildio’r awenau.