Mae ymgyrchwyr sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia wedi rhwystro ffyrdd, rheilffyrdd a strydoedd yng ngogledd ddwyrain y rhanbarth, flwyddyn ar ôl i refferendwm gael ei gynnal.

Roedd llys cyfansoddiadol Sbaen wedi dweud bod y refferendwm ar 1 Hydref 2017 yn anghyfreithlon. Cafodd nifer o ymgyrchwyr a gweinidogion Llywodraeth Catalwnia eu harestio a’u carcharu. Mae cyn-lywydd Llywodraeth Catalwnia, Carles Puigdemont yn byw yn alltud yng Ngwlad Belg.

Cafodd y protestiadau heddiw eu trefnu drwy apiau ar-lein gan Bwyllgorau er Amddiffyn y Weriniaeth, sef grwpiau o ymgyrchwyr a ddaeth i’r amlwg yn dilyn y bleidlais y llynedd.

Yn Girona, yng ngogledd Barcelona, roedd cannoedd o ymgyrchwyr wedi mynd ar gledrau’r rheilffyrdd wrth i’r heddlu geisio atal rhagor o brotestwyr rhag mynd i’r ardal ger yr orsaf.

Mae’r cyfryngau lleol hefyd yn dweud bod rhwystrau ar un o’r priffyrdd, AP-7, ar hyd dwyrain Catalwnia i’r ffin a Ffrainc, ac ar y strydoedd yn ninasoedd Lleida, a Barcelona.