Mae trigolion Macedonia yn bwrw eu pleidlais heddiw (dydd Sul, Medi 30) i benderfynu a fydd enw’r wlad yn cael ei newid.

Macedonia yw’r enw newydd sydd yn cael ei awgrymu, a hynny yn dilyn ffrae â Gwlad Groeg tros yr enw presennol sydd, meddai Gwlad Groeg, yn gwrthdaro ag enw rhanbarth yn y wlad honno ac yn awgrymu bod Macedonia wedi cipio’r rhanbarth.

Fe allai pleidlais tros newid yr enw arwain yn y pen draw at Ogledd Macedonia yn dod yn aelod o Nato a’r Undeb Ewropeaidd, ddau ddegawd ar ôl i Facedonia dorri’n rhydd o’r hen Iwgoslafia.

Mae’r rhai sy’n gwrthwynebu newid enw’r wlad wedi galw am foicot o’r bleidlais. Yn eu plith mae Arlywydd Macedonia, Gjorge Ivanov, sy’n dweud bod y refferendwm yn mynd yn groes i sofraniaeth.

Y cwestiwn fydd yn cael ei ofyn yn y refferendwm yw, “A ydych chi o blaid aelodaeth o Nato a’r Undeb Ewropeaidd drwy dderbyn y cytundeb rhwng Gweriniaeth Macedonia a Gweriniaeth Groeg?”

Byddai angen i o leiaf 50% o boblogaeth y wlad bleidleisio er mwyn i’r canlyniad ddod yn rhan o gyfraith y wlad.