Mae 832 o bobol wedi’u lladd yn dilyn daeargryn a tswnami ar ynys Sulawesi yn Indonesia, ac mae’r nifer yn parhau i gynyddu.

Bu farw 821 ohonyn nhw yn ninas Palu, a’r gweddill yn nhref Donggala, yn ôl yr awdurdodau, sy’n dweud nad oes ganddyn nhw newyddion eto am drefi Sigi na Boutong.

Mae lle i gredu bod rhagor o gyrff o dan y rwbel sydd heb gael eu darganfod hyd yn hyn, ond mae lleisiau i’w clywed yn galw am gymorth.

Tarodd y daeargryn, oedd yn mesur 7.5 ar raddfa Richter, yr ynysoedd a chreu tswnami nos Wener.

Mae cymorth dyngarol yn parhau i gyrraedd yr ynys wrth i’r awdurdodau a thrigolion ddechrau cyfri’r gost.

Mae disgwyl i Arlywydd Indonesia, Joko ‘Jokowi’ Widodo ymweld â nifer o ardaloedd sydd wedi’u heffeithio yn ddiweddarach heddiw.