Mae dinesydd Tsieina sy’n byw yn ninas Chicago wedi cael ei arestio ar amheuaeth o ysbïo, yn cynnwys bod yn rhan o’r gwaith o recriwtio peiriannwyr, contractwyr a gwyddonwyr ar gyfer gwasanaethau cudd-wybodaeth yn Tsieina.

Mae Ji Chaoqun, 27, wedi’i gyhuddo o weithredu yn fwriadol fel asiant i lywodraeth dramor yn yr Unol Daleithiau, a hynny heb roi gwybod i’r Twrnai Cyffredinol.

Mae wedi ymddangos unwaith gerbron llys ffederal yn Chicago.

Pan ofynnodd y barnwr iddo os oedd yn deall ei hawliau, fe gododd ei ben a dweud yn Saesneg, “I understand”.