Mae cyrff dyn o wledydd Prydain a’i wraig wedi cael eu darganfod yng Ngwlad Thai, gyda’r brawd-yng-nghyfraith wedi cael ei arestio ar amheuaeth o fod â chysylltiad â’i marwolaethau

Yn ôl pennaeth yr heddlu yn nhalaith Phrae, cafodd cyrff Alan Hogg, 64, a’i wraig, Nhot Suddaen, 61, eu canfod wedi’u claddu yn eu cartref.

Dywedodd fod y rhai wnaeth ladd y pâr wedi’u dal ar ôl dwyn eu cerbyd, a’u bod nhw wedi cyfaddef mai brawd Nhot Suddaen wnaeth eu cyflogi.

Erbyn hyn, mae’r brawd wedi cyfaddef ei fod yn gyfrifol am eu lladd yn dilyn ffrae deuluol.

Mae lle i gredu bod y pâr, a fu gyda’i gilydd am dros 30 mlynedd, wedi bod yn farw am o leia’ wythnos pan ddaeth yr heddlu o hyd iddyn nhw.