Mae archeolegwyr wedi dod o hyd i adeilad hynafol “anferth” yn nhref Mit Rahina, 12 milltir i’r de o’r brifddinas, Cairo.

Mae gweinyddiaeth hynafolion y wlad wedi cadarnhau hefyd bod cloddwyr wedi dod o hyd i adeilad sy’n cynnwys baddon Rhufeinig a siambr at gynnal defodau crefyddol.

Y gred yw fod yr adeilad yn rhan o floc o dai yn yr ardal, ac yn rhan o’r hen brifddinas, Memphis. Y ddinas honno, a gafodd ei sefydlu tua’r flwyddyn 3100CC, oedd cartref y brenin Menes, a fu’n gyfrifol am uno yr Aifft.

Mae’r wlad yn gobeithio y bydd y darganfyddiad diweddara’ yn hwb i dwristiaeth y wlad.