Mae’r Pab Ffransis wedi cydnabod fod sgandalau am gam-drin rhywiol yn gyrru pobol i ffwrdd oddi wrth yr Eglwys Gatholig, a bod yn rhaid i’r sefydliad newid os ydi hi am ddal gafael yn y genhedlaeth nesaf.

Wrth annerch cynulliad o bobol ifanc yn Estonia – un o’r gwledydd lleia’ crefyddol yn y byd – fe ddywedodd ei fod yn gwybod sut y mae pobol ifanc yn teimlo tuag at ei eglwys, fel rhywle sydd â dim i’w gynnig iddyn nhw. Yn waeth byth, meddai, dydi hi ddim yn ymddangos fel petai hi’n deall problemau’r oes chwaith.

“Rydyn ni’n gwybod – ac rydych chi wedi dweud wrthym ni – fod pobol ifanc yn amharod i droi aton ni am ddim byd, oherwydd dydyn nhw ddim yn teimlo bod gyda’r Eglwys ddim byd gwerth chweil i ddweud wrthyn nhw,” meddai Pab Ffransis heddiw (dydd Mawrth, Medi 25).

“Maen nhw wedi’u hypsetio gan sgandalau rhyw ac economaidd, ac mae hynny’n gondemniad arnon ni,” meddai wedyn.