Gorsaf niwclear Fukushima
Mae Lloyd’s yn Llundain wedi cyhoeddi colledion o £697 miliwn heddiw yn dilyn chwe mis costus iawn i’r diwydiant yswiriant oherwydd nifer y trychinebau.

Cafodd hawliau iawndal yswiriant gwerth £6.7biliwn eu gwneud yn sgil trychibeau yn Awstralia, Seland Newydd, Japan a’r Unol Daleithiau.

Dywedodd Lloyd’s ei bod yn ymddangos y bydd 2011 yn un o’r cyfnodau drytaf i yswiwyr

Ond dywedodd eu bod nhw wedi talu’r iawndal heb orfod defnyddio eu cronfa wrth gefn.

‘Cyfnod anodd’

Dywedodd y prif weithredwr Richard Ward: “Mae hi’n gyfnod anodd i’r diwydiant yswiriant ond rydan ni mewn sefyllfa i ddelio â nhw.”

Mae disgwyl hawliau iawndal gwerth £1.2biliwn yn sgil y tsunami a’r daeargryn yn Japan. Y dychineb a gostiodd fwyaf i’r farchnad yswiriant oedd Corwynt Katrina yn 2005, a gostiodd £2.4 biliwn mewn hawliau yswiriant.