Mae’r awdurdodau yn Cenia wedi cyhuddo un o lywodraethwr taleithiol y wlad o lofruddio myfyrwraig a oedd yn honni iddi gael perthynas rywiol â’r gŵr priod.

Mae Llywodraethwr Migori, Okoth Obado, wedi gwadu llofruddio Sharon Otieno, ac mae bellach yn cael ei gadw yn y ddalfa tan fod telerau ei fechnïaeth yn cael eu cytuno yn yr uchel lys.

Fe gafodd y fyfyrwraig a’r newyddiadurwr, Barack Oduor, eu hergipio fis diwethaf pan oedd disgwyl iddyn nhw gyfarfod â’r llywodraethwr.

Roedd y newyddiadurwr yn ceisio cael ymateb Okoth Obada i’r honiad fod Sharon Otineo yn feichiog gyda’i blentyn pan gawson nhw eu harwain i mewn i gar un o brif swyddogion y llywodraethwr.

Mae Barack Oduor yn dweud ei fod wedi neidio allan o’r car pan wnaeth dau ddyn ymddwyn yn ymosodol tuag atyn nhw a chymryd eu ffonau symudol.

Cafodd corff Sharon Otieno ei ddarganfod mewn coedwig yn ddiweddarach.