Mae llong 400 oed, sydd wedi cael ei darganfod ar waelod y môr ger Lisbon ym Mhortiwgal, yn cael ei gyfrif yn un o’r darganfyddiadau archeolegol mwyaf yn y wlad ers dau ddegawd.

Yn ôl y cyngor tref yn Cascais ger Lisbon, mae lle i gredu bod y llong yn rhan o’r fasnach sbeis rhwng Portiwgal ac India, yn ogystal â’r fasnach gaethweision.

Fe gafodd ei darganfod wrth i waith clirio gael ei gynnal yng ngheg afon Tagus ar arfordir Portiwgal.

Mae llestri main sy’n dyddio i deyrnasiad yr Ymerawdwr Wanli yn Tsieina, sef diwedd y 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, hefyd wedi cael eu darganfod ger y safle.