Mae Ibrahim Mohamed Solih wedi cael ei ethol yn Arlywydd newydd  y Maldives.

Ef oedd arweinydd yr wrthblaid, ac mi fydd yn olynu Abdulla Yameen yn arweinydd ar ei wlad.

Hyd yma, dyw Abdulla Yameen heb dderbyn y canlyniad yn swyddogol, ac mae disgwyl datganiad ganddo yn ddiweddarach.

Mae buddugoliaeth Ibrahim Mohamed Solih yn annisgwyl, ac roedd yna bryderon bod twyll ynghlwm â’r etholiad arlywyddol.

Ers cael ei ethol yn 2013, mae Abdulla Yameen wedi mynd i’r afael â gwrthwynebwyr iddo trwy eu carcharu.

Yn ôl canlyniadau anghyflawn y bleidlais gwnaeth 89.2% o’r wlad bleidleisio, gyda’r buddugwr yn derbyn 134,616 pleidlais a Abdulla Yameen yn derbyn 96,132.