Ar ei ymweliad â gwledydd y Baltic, mae’r Pab Ffransis wedi rhybuddio yn erbyn peryglon yr agweddau gwrth-Iddewig sydd ar droed yn nwyrain Ewrop ar hyn o bryd.

Roedd yn annerch torf o hyd at 100,000 o bobl mewn offeren yn Kaunas, ail ddinas Lithwania, lle cafodd 90% o’r gymuned Iddewig o 37,000 eu lladd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Yn ei offeren, fe wnaeth y Pab anrhydeddu’r Iddewon a ddioddefodd dan law’r Natsïaid; a’r Lithwaniaid a gafodd eu poenydio, eu lladd a’u gormesu yn ystod hanner canrif o dan y drefn Sofietaidd.