Mae o leiaf 100 o bobol wedi marw wedi i fferi droi drosodd yn Llyn Fictoria, Tanzania, gwlad yn nwyrain Affrica.

Suddodd y fferi ddoe ac fe gafodd 37 o bobol eu hachub yn dilyn y ddamwain.

Dyw hi ddim yn glir faint o bobol oedd arni, ac mae’n bosib y bydd nifer y meirw yn cynyddu.

Roedd y fferi, MV Nyerere, yn teithio rhwng ynys Ukara a thref Bugolora pan suddodd.

Fictoria

Mae damweiniau fferi yn digwydd yn Llyn Fictoria yn gymharol reolaidd, ac mae cannoedd wedi marw yn y gorffennol.

Yn 1996, bu farw 800 pan suddodd yr MV Bukoba, ac yn 2011 bu farw bron i 200 pan aeth MV Spice Islander I i drafferthion.