Mae Arlywydd Fietnam, Tran Dai Quang, wedi marw yn 61 oed.
Yn ôl Asiantaeth Newyddion Fietnam, bu farw’r arlywydd mewn ysbyty yn Hanoi ar ôl brwydr â salwch difrifol.
Doedd Tran Dai Quang heb ymddangos yn gyhoeddus am dros fis y llynedd, gan godi amheuon ei fod yn anhwylus.
Treuliodd rhan helaeth o’i yrfa yn swyddog diogelwch, a chafodd ei ethol yn Arlywydd ym mis Ebrill 2016.
Er gwaetha’ ei gyflwr, fe gymerodd rhan yng nghyfarfod Politbwro y Blaid Gomiwnyddol, ac mi groesawodd ddirprwyaeth o Tsieina i’w wlad, ar ddydd Mercher (Medi 19).