Mae Kim Jong Un yn awyddus i drafod ymhellach ei raglen niwclear â phrif gynrychiolwyr yr Unol Daleithiau, yn ôl arweinydd De Corea.

Mae arweinydd Gogledd Corea hefyd yn awyddus i ddod â Rhyfel Corea i ben yn swyddogol, meddai’r arlywydd Moon Jae-in.

Daw’r cyhoeddiadau yma gan Arlywydd De Corea wrth iddo ddychwelyd o ymweliad tridiau o hyd â Gogledd Corea lle bu’n cyfarfod â Kim Jong Un.

Mae Moon Jae-in dan bwysau i ddarbwyllo Kim Jong Un i gefnu ar ei rhaglen niwclear, ac mae’n ymddangos ei fod yn barod i ysgwyddo’r baich.

“Mae ‘na bethau mae’r Unol Daleithiau am i ni gyfleu i Ogledd Corea, ond hefyd mae ‘na bethau mae Gogledd Corea am i ni gyfleu i’r Unol Daleithiau,” meddai Moon Jae-in.

“Byddaf yn gwireddu’r rôl yna yn ffyddlon pan fyddaf yn cwrdd ag Arlywydd Trump, er mwyn galluogi deialog rhwng y ddwy ochr.”