Mae pedwar o blant wedi cael eu lladd, a dau o bobol eraill wedi’u hanafu’n ddifrifol, mewn gwrthdrawiad rhwng trên a beic cargo yn yr Iseldiroedd.

Fe ddigwyddodd y ddamwain ar reilffordd yn nhref Oss, 62 milltir i’r de-ddwyrain o’r brifddinas, Amsterdam.

Dyw hi ddim yn hollol glir beth achosodd y gwrthdrawiad, ond mae’r cyfryngau yn yr Iseldiroedd yn nodi mai ar groesfan y digwyddodd.

Roedd beiciau cargo – beiciau â bocsus pren mawr ar y ffrâm o flaen y reidiwr – yn arferl cael eu defnyddio i gario nwyddau, ond maen nhw’n llawer mwy poblogaidd erbyn hyn gan rieni yn yr Iseldiroedd i gario plant ifanc.