Fe allai arlywydd Feneswela beidio mynd i gyfarfod y Cenhedloedd Unedig yr wythnos nesaf, oherwydd pryderon y gallai ei elynion geisio ei ladd pe bai’n teithio dramor.

Er bod Nicolas Maduro yn dweud ei fod yn dal i “obeithio” mynd i gynulliad cyffredinol y sefydliad yn Efrog Newydd, mae’n dweud bod gelynion â chefnogaeth yr Unol Daleithiau yn chwilio am ffyrdd i gael gwared arno.

Dyw e ddim yn gallu cyflwyno tystiolaeth gadarn fod cynllwynio wedi bod yn ei erbyn, meddai, ond mae wedi nodi digwyddiad y mis diwethaf gan ddau ddrôn yn ystod araith ganddo i filwyr, yn bethau sydd ar ei feddwl.

“Mae’n gynllwyn parhaus i gael gwared arna’ i,” meddai.