Mae arlywydd gwlad Pwyl wedi galw ar yr Unol Daleithiau i godi safle milwrol a’i enwi’n ‘Fort Trump’.

Mae Donald Trump wedi ymateb gan ddweud ei fod yn ystyried y syniad, a bod gwlad Pwyl wedi cynnig mwy na $2bn o arian at y gwaith.

Mewn cynhadledd ar y cyd rhwng y ddwy wlad yn y Ty Gwyn, fe gyhoeddwyd fod y ddwy ochr wedi cytuno i gryfhau’r cysylltiadau rhyngddyn nhw, a rhoi hwb i faterion ym meysydd amddiffyn, egni a masnach.

Dyw’r cysylltiad rhwng y ddwy wlad “erioed wedi bod yn gryfach” nag y mae ar hyn o bryd, medden nhw.

Mae gwlad Pwyl wedi bod yn pwyso am i 3,000 o filwyr yr Unol Daleithiau sydd ar hyn o bryd yn treulio cyfnodau yn y wlad, i gael presenoldeb parhaol yno.