Biliwnydd o Japan yw un o’r bobol gyntaf i dalu am daith bersonol o gwmpas y lleuad.

Mae Yusaku Maezawa wedi ymddangos mewn digwyddiad gan y cwmni sy’n arbenigo mewn teithiau i’r gofod, SpaceX.

Dywedodd mai ei freuddwyd erioed yw mentro i’r sêr, ac mae disgwyl iddo wneud y siwrne i’r lleuad yn 2023.

Does dim gwybodaethh ynghylch faint mae’r dyn busnes 42 oed wedi talu am y daith, ond mae SpaceX yn dweud y bydd yn teithio teithio mewn roced sydd ar hyn o bryd yn dal i gael ei datblygu.

Yn ôl sefydlydd SpaceX, Elon Musk, enw’r roced fydd y BFR, a bydd modd ei defnyddio fwy nag unwaith.

Bydd gan y roced, a fydd yn 387 troedfedd o hyd, ei long bersonol i deithwyr.

Y pellter ar gyfartaledd o’r Ddaear i’r lloer yw 237,685 milltir, a does yr un dyn wedi mentro yno ers 1972.